Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd Ysgol

Dydd Mercher 8 Mehefin 2022, 12:00 – 13:30

 

Yn bresennol:

Jenny Rathbone AS, Canol Caerdydd; Peter Fox MS, Mynwy; Sioned Williams AS, Gorllewin De Cymru; Suan John, Swyddfa Cefin Campbell AS; Kirsty Rees, Swyddfa Mike Hedges AS, Dwyrain Abertawe; Emilia Douglas, Swyddfa Laura Ann Jones AS

Yn bresennol:

Judith Gregory, Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol (LACA); Jason Rawbone, Cyngor Sir Powys; Mark Lawton, Gwasanaeth Bwyd Harlech; Matt Lewis, Castell Howell; Rhys James, Emily Ball, Cyngor Sirol Bwrdeistref Caerffili; Bryn Hamer, Hannah Caswell, Laura Chan, Cymdeithas y Pridd; Jen Griffiths, Cyngor Sir y Fflint; Kevin Rahman-Daultrey, Maint Cymru; Pearl Costello, Bwyd Caerdydd; Clare Sain-Ley-Berry, Cynnal Cymru; Yr Athro Kevin Morgan, Libby Davies, Undeb Amaethwyr Cymru; Holly Tomlinson, Jonathan Hughes, Blas Gwent; Gareth Thomas, Cara Mai Lewis, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Katie Palmer, Synnwyr Bwyd Cymru; Caroline Campbell, Gwynedd; Edward Morgan, Castell Howell; Ian Evans, Caerffili; Sarah Hopkins, Cynnal Cymru

Ymddiheuriadau:

Laura Ann Jones AS, Dwyrain De Cymru; Heledd Fychan AS, Canol De Cymru; Carolyn Thomas AS, Gogledd Cymru; Cefin Campbell AS, Canolbarth a Gorllewin Cymru; Luke Fletcher AS, Gorllewin De Cymru

Cytuno ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2022

Cytunwyd ar y cofnodion.

Nodiadau ynghylch y cyflwyniad:

-          Judith Gregory, Cadeirydd, LACA Cymru:

o    Mae awdurdodau lleol wedi cael swm bach o arian cyfalaf ar gyfer cynnal archwiliadau cegin, a swm pellach ar gyfer offer. Fodd bynnag, nid yw’r cyllid hwn yn ddigonol a disgwylir mwy.

o    Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi diffinio 'dysgwyr ieuengaf'. Felly, mae ansicrwydd ynghylch nifer y disgyblion a fydd yn cael prydau ysgol am ddim ym mis Medi. Nid yw cost uned prydau bwyd wedi'i chadarnhau ychwaith, felly nid yw arlwywyr yn gwybod beth fydd y cyllid refeniw ar gyfer cyflwyno’r ddarpariaeth hon.

o    Mae tri maes penodol o ran yr heriau a wynebir: 1) seilwaith, 2) bwyd, 3) staff.

o    Isadeiledd – mae prinder o ran yr offer sydd ar gael ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ciniawa. Mae'r amserlenni byr yn golygu ei bod yn anodd caffael offer. Nifer cyfyngedig o gyflenwyr sy’n gweithredu yn y diwydiant, ac mae’r galw ymhlith pob un o’r 22 awdurdod lleol yn ychwanegu pwysau. Er enghraifft, mae un cwmni sy’n cyflenwi poptai combi wedi dweud nad oes modd iddo fodloni archebion cyfredol tan fis Ionawr 2023. Mae hefyd wedi cau ei lyfrau ar gyfer archebion newydd yn sgil prinder microsglodion a achoswyd gan y rhyfel yn Wcráin, lle mae'r microsglodion yn cael eu cynhyrchu.

o    Bwyd – mae chwyddiant a chostau cynyddol bwyd yn broblem. Mae arlwywyr am gynnal eu safonau coginio cartref, sy'n cydymffurfio â’r rheoliadau sy’n ymwneud â bwyta'n iach. Os bwriedir cyflenwi bwyd drwy ffynonellau lleol, bydd hyn yn dod â chostau ychwanegol y bydd angen eu cynnwys.

o    Staff – mae’r problemau staffio ym maes lletygarwch yn parhau. Nid oes llawer o staff am gynyddu eu horiau, ac mae'n anodd recriwtio. Mae angen sicrhau bod bwydlenni yn hwylus.

-          Jason Rawbone, Uwch Reolwr Gweithredu, Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, Llywodraeth Cymru (ac Awdurdod Addysg Lleol Powys):

o    Mae’r heriau a wynebir yn cynnwys yr heriau a ganlyn:

§  Ni fydd rhai ysgolion yn gallu cyflenwi 100 y cant o brydau mewn dosbarthiadau derbyn yn sgil materion yn ymwneud â chapasiti / offer.

§  O ran caffael offer, mae llinellau amser cyflenwyr yn rhy hir.

§  Canfu rhai archwiliadau cegin y bydd angen i rai ysgolion uwchraddio eu cyflenwadau trydan. Bydd gofyn cynnal proses dendro yn hynny o beth, a bydd angen dyrannu cyllid cyfalaf er mwyn gwneud y gwaith.

§  Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y byddai modd iddi helpu gyda’r problemau staffio.

o    Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd uned ar gyfer prydau ysgol rhwng £2.10 a £2.85, yn dibynnu ar yr awdurdod lleol. Mae'r gyfradd uned yn parhau i gael ei chymeradwyo gan y Gweinidog. Disgwylir iddi gael ei phennu ar y lefel uchaf er mwyn adlewyrchu'r cynnydd chwyddiannol ym mhrisiau bwyd.

JenR: Ni fydd modd i rai ysgolion gynnwys dosbarthiadau derbyn. Beth yw barn y Llywodraeth am hyn, a beth sy'n cael ei roi ar waith?

JasR: Rydym yn ystyried dewisiadau eraill. Er enghraifft, rydym yn ystyried cynllun talebau, ond dyma fyddai’r dewis olaf. Mae prydau’n cael eu cludo i rai ysgolion os nad oes ganddynt gegin. Mae podiau cegin yn opsiwn, ond mae angen caniatâd cynllunio yn eu cylch.

-          Matt Lewis:

o    Dyma gyfle da i gynnyrch lleol a chynnyrch Cymreig. Mae bwyd y sector cyhoeddus yn gyfran sylweddol o drosiant y sector (10 y cant, tua £16 miliwn y flwyddyn). Ar hyn o bryd, mae 14 y cant o’r fasged yn cael ei gaffael gan gwmnïau Cymreig, ac mae hyn yn codi i 30 y cant os yw cynhyrchion a gynhyrchir yn fewnol yn cael eu cynnwys.

o    Chwyddiant bwyd yw'r broblem fwyaf.

o    Mae costau llafur hefyd yn broblem. Bu'n rhaid i gyflogau gynyddu. Er enghraifft, mae cyflogau gyrwyr dosbarthu wedi cynyddu 25 y cant.

o    Mae'n rhaid i gostau gael eu trosglwyddo drwy'r gadwyn gyflenwi. Fel arall, nid yw’r diwydiant yn ddeniadol ac mae perygl y bydd rhai busnesau yn tynnu allan gan nad yw'n hyfyw.

o    Mae amserlenni hefyd yn broblem. Archebodd Castell Howell gerbydau dosbarthu newydd mewn da bryd. Fodd bynnag, pe byddai’r cwmni yn ceisio eu harchebu yn awr, byddai’n rhaid iddo aros amdanynt am gyfnod o 18 mis i ddwy flynedd.

o    Mae gweithgynhyrchwyr yn cael trafferth cael yr eitemau bwyd sylfaenol, ac maent yn buddsoddi mewn stoc.

-          Mark Lawton:

o    Mae’n gyfle da i gynnyrch Cymreig, ac yn gyfle hefyd i fyrhau cadwyni cyflenwi. 

o    Mae Cymru’n gallu cyflenwi cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth, ond mae’n wan ym meysydd porc a dofednod.

o    Nid yw'n hawdd dod o hyd i'r cyfeintiau cywir.

o    Rydym yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod mwy o gynnyrch Cymreig ar y fwydlen – er enghraifft, defnyddio cig eidion Cymreig yn lle cig eidion o Loegr / yr UE.

o    Rydym hefyd yn ehangu’r amserlen gyflenwi ar gyfer ysgolion mawr.

o    Mae angen cymorth hirdymor ar sector bwyd Cymru, a chefnogaeth hefyd ar gyfer cymunedau gwledig.

o    Ceir rhagor o wybodaeth yn y cyflwyniad a roddwyd yn ystod y cyfarfod; gweler yr atodiad i’r neges e-bost gysylltiedig. 

Trafodaeth

JenR: Sut y gallwn ni ddatblygu strategaeth a bwydlenni i annog pobl i fwyta'n iach? Sut rydym yn addasu bwydlenni, a beth rydym yn ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion mewn dosbarthiadau derbyn yn cael pryd iach yn y sefyllfa bresennol?

GT: Mae prydau ysgol yn iach fel ag y maent.

KM [mewn sylwadau]: Byddai tybio bod y cynnig presennol yn arbennig o iach yn beth hunanfodlon i’w wneud.

GT [mewn sylwadau]: Mae lle i wella o ran rhai o’r Rheoliadau ar gyfer bwyta'n iach mewn ysgolion a'r broses o’u gweithredu. Roeddwn yn ceisio egluro’r cwestiwn, a oedd yn swnio fel petai’n awgrymu nad yw ein man cychwyn yn un iach.

JasR: Mae angen i awdurdodau lleol wybod beth yw’r gyfradd uned. Yna, gellir cynllunio bwydlenni. Amcangyfrifir mai 86 y cant sy’n manteisio ar y prydau bwyd dan sylw. Mae gan bob rheolwr arlwyo yr uchelgais o ddarparu prydau iach.

KP: Mae'r rheoliadau ar fwyd mewn ysgolion yn mynd i gael eu hadolygu. Mae’n rhaid iddynt gynnwys cynhyrchiant cyfredol, a thargedau o ran yr hinsawdd, maeth, gallu a sero net. Mae gennym gyfle i wneud y mwyaf o iechyd a dod â phopeth at ei gilydd.

RJ: Mae prydau bwyd yn iach ar hyn o bryd. Gallwn brynu'r hyn y mae arlwywyr ei angen, ond mae llawer o fiwrocratiaeth ynghlwm wrth y broses o lunio bwydlenni. Mae'n broses sy’n cymryd amser hir. Mae angen hyblygrwydd er mwyn cynnwys cynnyrch lleol a thymhorol. Er enghraifft, gallem brynu cig oen Cymreig ym mis Hydref pan fo’r pris yn isel, a’i rewi er mwyn cael ei ddefnyddio yn ddiweddarach.

JenR: Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) wedi dweud y gall y sector amaethyddol gynhyrchu unrhyw beth os yw’r sector yn gwybod am yr angen ymlaen llaw.

ML: Gwyddom am y cyfeintiau, ond mae'n anodd cael gafael ar gynnyrch yn y sector cyhoeddus, gan fod manwerthu yn cael ei flaenoriaethu uwchlaw cyfanwerthu.

JH: Nid yw’n bosibl cynyddu cyfeintiau yn awr, ym mis Mehefin, ar gyfer mis Medi. Rydym yn hau’r hadau ym mis Mawrth er mwyn darparu cynnyrch ar gyfer mis Medi, felly bydd hyn yn effeithio ar y broses o gynllunio bwydlenni.

PF: Nid oes gennym fwled arian. Bydd y broses o gynyddu cyflenwadau yn cymryd amser hir. Y peth allweddol yw gallu awdurdodau lleol i ddarparu prydau bwyd, a’u dyhead i ddarparu bwyd o’r ansawdd gorau. Mae angen gwrthdroi'r gymhareb lle bo ansawdd yn cyfrif am 30 y cant a phris yn cyfrif am 70 y cant, a chreu sefyllfa lle mae ansawdd yn cyfrif am 70 y cant a phris am 30 y cant. Ond sut y gallwn ni wneud hyn o fewn y gyllideb? Yn sgil y pwysau presennol, hyd yn oed pe bai'r pris fesul uned yn cael ei phennu ar y lefel uwch o £2.85, beth allai hynny fod? Mae pethau'n mynd i fynd yn fwy anodd cyn iddynt ddod yn haws. Darparu prydau bwyd yw'r flaenoriaeth gyntaf. Mae angen buddsoddiad cyfalaf yn y cyd-destun hwn, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â heriau sylfaenol. Nid oes llawer o amser tan fis Medi. Rhaid sicrhau mai defnyddio bwyd lleol yw'r nod, ond mewn gwirionedd, capasiti yw’r flaenoriaeth.

SH: A roddwyd ystyriaeth i ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau arlwyo lleol, ceginau eraill yn y sector cyhoeddus neu geginau preifat?

CSLB: (cwestiwn wedi'i ailadrodd uchod) Mae NESTA yn gweithio ar wella pa mor iach yw bwyd. Mae maint y dognau yn ystyriaeth arall.

ML: Mae diogelwch bwyd yn broblem.

JasR: Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bartïon yn y trydydd sector sy'n darparu prydau i ysgolion.

JG: Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bartïon trydydd sector chwaith. Mae diogelwch bwyd yn broblem, yn ogystal â'r drefn o gludo bwyd, gan fod ansawdd yn cael ei golli drwy’r broses honno. Byddai angen talu’r cyflenwyr, ac mae’r gost fesul uned yn annhebygol o fod yn ddigon i dalu'r gost.

JasR: Byddai'n rhaid i'r darparwr gydymffurfio â'r safonau, gan gynnwys lleihau lefel yr halen a siwgr.

CSLB: Gallai fod yn opsiwn os oes cyfleusterau cegin ar gael.

ML: Bu sgwrs ar lefel leol rhwng Hywel Dda ac NPT i ymchwilio i’r mater hwn, ond yr un yw'r heriau, sef diffyg offer a staffio.

SW: Mae cydweithio yn opsiwn diddorol. Dylai’r cam o gyflwyno prydau ysgol am ddim gael ei weld fel gwasanaeth newydd, nid ymgyrch i ehangu gwasanaeth sy’n bodoli eisoes. Mae'n bwysig edrych ar y darlun cyfan.

JenR: Rydym yn torri tir newydd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy.

ML: Rydym yn archwilio gweithgarwch gweithgynhyrchu lleol er mwyn dod o hyd i geginau nad oes ganddynt yr holl gyfleusterau er mwyn helpu i lenwi'r bylchau. Mae hyn yn cynnwys bwyd a atgynhyrchwyd sydd wedi'i rewi, y gellir ei ddefnyddio ar adeg briodol.

JenR: A oes gan unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant unrhyw sylwadau, gan gynnwys sylwadau am y broblem o ordewdra?

KP: Mae addysg yn bwysig. Roedd y cynllun peilot ‘Bwyd a Hwyl’ yn canolbwyntio ar gorbwmpenni, gan ddod â maeth bwyd ac addysg ynghyd drwy weithio â phlant a dietegwyr. Y peth olaf yr ydych ei angen yw pryd ysgol nad yw'r plentyn yn ei fwyta, neu bryd nad yw'n bodloni'r gofynion maeth. Mae 80 y cant o gartrefi yng Nghymru yn dioddef ansicrwydd o ran bwyd.

JasR: Rydym yn cyhoeddi arolygon, a gall arlwywyr awdurdodau lleol fynd i gyfarfodydd Grwpiau Gweithredu Maeth Ysgolion (SNAGs). Mae’r cynllun Bwyd a Hwyl yn ennyn adborth gwych ac yn gwella bob blwyddyn. Mae ysgolion eisoes yn gwneud llawer o waith yn y cefndir.

GT: Cafodd y bwydlenni eu hadolygu at ddibenion lleihau’r cynnwys siwgr. Arweiniodd hyn at newid y pwdinau a oedd ar gael, ond pam fyddai angen i arlwywyr wneud unrhyw newidiadau pellach i fwydlenni? Mae prydau ysgol poeth yn bodloni'r safonau, ond mae hyn yn anodd ei wneud gyda phrydau oer.

HT: Sawl dogn o lysiau sydd eu hangen?

GT: Dylid cynnig o leiaf un dogn o lysiau ac un dogn o ffrwythau.

HT: Os mai hwn fydd prif bryd y dydd, nid yw hynny’n ddigon. A ddylid ailystyried hyn yn y diweddariad?

JG: Mae angen o leiaf un dogn, ond mae llawer yn darparu mwy ac yn cynnwys bar salad.

JenR: Sut y gallwn ni leihau gwastraff bwyd? Mae hwnnw’n fater cost ac yn fater moesegol.

JasR: Mae’r mater wedi cael ei drafod, a bydd yn cael ei adlewyrchu yn y rheoliadau newydd. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud yn y maes hwn.

ML: Rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol ar archebu ar-lein er mwyn ceisio lleihau gwastraff.

JG: Mae'r system archebu ymlaen llaw yn caniatáu i rieni mewn ysgolion cynradd ddewis prydau bwyd eu plant. Felly, dim ond y nifer gofynnol o brydau y mae gofyn i arlwywyr eu coginio.

JenR: Pa awdurdodau lleol sy’n gwneud hynny? A fyddai modd cysylltu’r system hon â chofrestrau presenoldeb?

JG: Nid yw’r system wedi’i chysylltu â chofrestrau ysgolion. System heb arian ydyw, sy’n ceisio dileu stigma. Nid oes modd dweud pwy sy'n defnyddio'r system hon a phwy sy’n dewis peidio ei defnyddio. Fodd bynnag, mae'r system hon yn darparu data gwell ynghylch pa blant sydd wedi cael pryd o fwyd, a hynny er mwyn edrych ar y niferoedd. Rydym yn annog rhieni i eistedd gyda’r plentyn wrth archebu prydau, er mwyn sicrhau bod y pryd at ddant y plentyn a bod y plentyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Dros amser, mae patrwm yn datblygu o ran yr archebion bwyd a wneir, sy'n ei gwneud yn haws i gyflenwyr.

JaR: Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae’r archebion a wneir ymlaen llaw yn cael eu gwneud gartref neu yn yr ystafell ddosbarth. Nid oes gan rai awdurdodau system heb arian. Y bwriad yw cyflwyno system o’r fath, ond mae angen mynd drwy’r broses dendro er mwyn gwneud hynny.

JenR: Ond nid oes angen system heb arian ar gyfer cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb.

JaR: Mae'r system hefyd yn cefnogi'r system archebu ymlaen llaw, sy'n parhau i ddatblygu. Nid oes system safonol ar waith, ond yn y de, y tueddiad yw defnyddio’r un cyflenwr.

JenR: Pa mor dda yw’r defnydd a wneir gan arlwywyr o fwyd dros ben?

JasR: Mae arlwywyr yn ei ddefnyddio’n dda, cyn belled â'i fod yn ddiogel i wneud hynny.

RJ: Nid oes modd inni sicrhau cynnydd, na gwybod beth yw’r ffordd orau o symud ymlaen, hyd nes y byddwn yn gwybod manylion y gyllideb ar gyfer mis Medi.

PC: Mae angen wythnosau o amser i baratoi ar gyfanwerthwyr ML.

JenR: Mae tyfwyr hefyd yn plannu ar gyfer y gaeaf ar hyn o bryd, ac mae angen gwybodaeth arnynt am feintiau.

GT: A yw'n ymarferol i wasanaethau arlwyo gasglu a defnyddio cynnyrch lleol? Er enghraifft, mae tatws a moron wedi’u plicio ymlaen llaw yn aml yn cael eu prynu i mewn. Mae amser a chostau staffio yn broblem.

HT: Rydym yn rhan o gynllun peilot sy’n edrych ar rai o’r pethau hyn. Mae cynhyrchwyr yn wynebu heriau – er enghraifft, yr heriau gweinyddol y mae cynhyrchwyr bach yn eu hwynebu. Croesewir y grantiau a gynigir ar gyfer cynhyrchwyr bach.

RJ: Drwyddi draw, rydym wedi gweld pethau’n symud i ffwrdd o’r drefn o baratoi prydau ar y safle, wrth i gyllidebau grebachu ac wrth i offer gael ei symud ymaith. Er mwyn gwyrdroi’r patrwm hwnnw, byddwn yn gweld cynnydd mewn amser staff a chostau bwyd. Bydd yn anodd cyflawni hyn, yn enwedig gyda chynnyrch nad yw wedi'i baratoi ymlaen llaw.

JeR: Mae'r safleoedd nad oes ganddynt unrhyw gyfleusterau arlwyo yn dangos sut mae pwysigrwydd prydau ysgol wedi llithro oddi ar yr agenda.

Diolch i’r pedwar siaradwr a drafododd yr heriau yr ydym yn eu hwynebu. Mae angen inni sicrhau bod atebion radical ac ymarferol yn dod i’r amlwg. Dyma unig bryd y dydd i nifer o blant, a rhaid ymateb i hynny.

Camau i’w cymryd

-          Jenny i anfon nodyn at Jeremy Miles ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am ba grwpiau blwyddyn ysgol fydd yn cael prydau ysgol am ddim ym mis Medi, ac ynghylch y gyllideb, a hynny fel y gall pawb yn y gadwyn ddechrau gweithio arni.

Gwybodaeth ychwanegol

-          Ers y cyfarfod, mae rhagor o wybodaeth wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru. Gweler y linc a ganlyn: https://llyw.cymru/y-cynllun-prydau-ysgol-am-ddim-i-bawb-yn-cychwyn-cael-ei-weithredu-ym-mis-medi